13428. Dyma Gariad Fel Y Moroedd

1 Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
T’wysog bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio cofio amdano
Pwy all beidio canu ei glod?
Dyma gariad nad â’n anghof
Tra bod nefoedd wen yn bod.

2 Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynonau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oeddynt gytfain hyd yn awr:
Gras a chariad megis dylif
Yn ymdywallt yma’nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd.

Text Information
First Line: Dyma gariad fel y moroedd
Title: Dyma Gariad Fel Y Moroedd
Author: William Rees, 1802-1883
Language: English
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: [Dyma gariad fel y moroedd]
Composer: Robert Lowry (1876)
Key: F Major or modal
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the text authority and tune authority pages.

Suggestions or corrections? Contact us