Author: Daniel James (Gwyrosydd), 1848-1920 Hymnal: The Cyber Hymnal #13416 Hymnal Title: The Cyber Hymnal First Line: Nid wy’n gofyn bywyd moethus Refrain First Line: Calon lân yn llawn daioni Lyrics: 1 Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.
Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu—
Canu’r dydd a chanu’r nos.
2 Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd. [Cytgan]
3 Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân. [Cytgan] Languages: Welsh Tune Title: CALON LÂN
Calon Lân