Author: Dafydd William, 1720-1794 Hymnal: The Cyber Hymnal #13443 Hymnal Title: The Cyber Hymnal First Line: Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau Lyrics: 1 Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen
Ond fy annwyl Briod Iesu,
A fu farw ar y pren:
Cyfaill yw yn afon angau,
Ddeil fy mhen i uwch y don;
Golwg arno wna i mi ganu
Yn yr afon ddofon hon.
2 O! anfeidrol rym y cariad,
Anorchfygol ydyw’r gras;
Digyfnewid yw’r addewid,
A bery byth o hyn i maes;
Hon yw f’angor ar y cefnfor,
Na chyfnewid meddwl Duw;
Fe addawodd na chawn farw,
Yng nghlwyfau’r
Oen y cawn i fyw. Languages: Welsh Tune Title: [Yn y dyfroedd mawr a’r tonnau]
Yn Y Dyfroedd Mawr A'r Tonnau