13419. Da Yw Bod Wrth Draed Yr Iesu

1 Da yw bod wrth draed yr Iesu,
Ym more oes;
Ni chawn neb fel Ef i’n dysgu,
Hyd ddiwedd oes:
Dan Ei groes mae ennill brwydrau,
A gorchfygu temtasiynau—
Achos Crist yw’r achos gorau,
Ar hyd ein hoes.

2 Cawn Ei air i buro’r galon,
Ym more oes;
A chysegru pob gobeithion,
Ym more oes;
Wedi dod ym mlodau’n dyddiau,
Ni bydd eisiau gado’i lwybrau—
Cawn fynediad i’w drigfannau,
Ar ddiwedd oes.

Text Information
First Line: Da yw bod wrth draed yr Iesu
Title: Da Yw Bod Wrth Draed Yr Iesu
Author: Howell E. Lewis, 1860-1953
Meter: 84.84.88.84
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: LEONORA
Composer: Caradog Roberts (circa 1920)
Meter: 84.84.88.84
Key: D Major
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score

Suggestions or corrections? Contact us