Author: William Rees, 1802-1883 Hymnal: The Cyber Hymnal #13428 Lyrics: 1 Dyma gariad fel y moroedd,
Tosturiaethau fel y lli:
T’wysog bywyd pur yn marw—
Marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio cofio amdano
Pwy all beidio canu ei glod?
Dyma gariad nad â’n anghof
Tra bod nefoedd wen yn bod.
2 Ar Galfaria yr ymrwygodd
Holl ffynonau’r dyfnder mawr;
Torrodd holl argaeau’r nefoedd
Oeddynt gytfain hyd yn awr:
Gras a chariad megis dylif
Yn ymdywallt yma’nghyd,
A chyfiawnder pur a heddwch
Yn cusanu euog fyd. Languages: English Tune Title: [Dyma gariad fel y moroedd]
Dyma Gariad Fel Y Moroedd