13435. O Flaen Y Fainc Rhaid Sefyll

1 O flaen y fainc rhaid sefyll,
Ië, sefyll cyn b’o hir;
Nid oes a’m nertha yno
Ond Dy gyfiawnder pur:
Myfi anturia’n ëon
Trwy ddyfroedd a thrwy dân,
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.
Glân, glân,
Ond Dy gyfiawnder glân;
Heb oleu ac heb lewyrch,
Ond Dy gyfiawnder glân.

2 Ni fuasai genyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A’r t’w’llwch dudew byth,
Oni buasai i’r Hwn a hoeliwyd
Ar fynydd Calfari,
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.
Fi! fi!
I gofio am danaf fi.
O ryw anfeidrol gariad,
I gofio am danaf fi.

Text Information
First Line: O flaen y fainc rhaid sefyll
Title: O Flaen Y Fainc Rhaid Sefyll
Author: William Williams
Meter: 76.76 D
Language: Welsh
Source: Old Welsh Tune
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: BRYNIAU CASSIA
Meter: 76.76 D
Key: g minor
Source: Old Welsh Tune
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score

Suggestions or corrections? Contact us