
Author: Lewis Hartsough; John Roberts (Ieuan Gwyllt), 1822-1877 Hymnal: The Cyber Hymnal #13430 First Line: Mi glywaf dyner lais Refrain First Line: Arglwydd, dyma fi Lyrics: 1 Mi glywaf dyner lais,
Yn galw arnaf fi,
I ddod a golchi ’meiau gyd,
Yn afon Calfari.
Byrdwn:
Arglwydd, dyma fi
Ar dy alwad di,
Golch fi’n burlan yn y gwaed[9]
A gaed ar Galfari.
2 Yr Iesu sy’n fy ngwadd,
I dderbyn gyda’i saint,
Ffydd, gobaith, cariad pur a hedd,
A phob rhyw nefol fraint. [Byrdwn]
3 Yr Iesu sy’n cryfhau,
O’m mewn Ei waith trwy ras;
Mae’n rhoddi nerth i’m henaid gwan,
I faeddu ’mhechod cas. [Byrdwn]
4 Gogoniant byth am drefn,
Y cymod a’r glanhad;
Derbyniaf Iesu fel yr wyf,
A chanaf am y gwaed. [Byrdwn]
Languages: Welsh Tune Title: [Mi glywaf dyner lais]
Gwahoddiad