Author: William Williams, 1717-1791 Hymnal: The Cyber Hymnal #13433 Meter: 6.6.6.6.8.8 First Line: Mae’r faner fawr ymlaen Lyrics: 1 Mae’r faner fawr ymlaen,
Efengyl nef yw hon;
Mae uffern lawn o dân
Yn crynu ’nawr o’r bron;
Hi gwymp, hi gwymp, er maint ei grym;
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
O flaen fy Iesu ’d yw hi ddim.
2 Na lwfrhaed ein ffydd;
Mae’n ffydd fel colofn dân
A blannodd Brenin nef
I’n harwain yn y blaen;
Mi wela’r wlad, mi gâ’i mwynhau,
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
Lle pery’m hedd heb dranc na thrai.
3 O! ffynnon fawr o hedd,
O! anchwiliadwy fôr,
Sy’n cynnwys ynddo’i hun
Ryw annherfynol stôr;
Ti biau’r clôd; wel, cymer ef,
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef.
Trwy’r ddaear, uffern fawr, a’r nef. Languages: Welsh Tune Title: RHOSYMEDRE
Mae'r Faner Fawr Ymlaen