1 O fendigaid Geidwad, clyw fy egwan gri!
Crea ddelw’th gariad yn fy enaid i:
Carwn Dy gymundeb nefol, heb wahân,
Gwelwn wedd Dy wyneb, ond cael calon lân.
2 Plygaf i’th ewyllys, tawaf dan bob loes,
Try pob Mara’n felys, braint fydd dwyn y groes;
Molaf Dy drugaredd yn y peiriau tân;
Digon, yn y diwedd, fydd cael calon lân.
3 O fendigaid Arglwydd, ar fy nhaith trwy’r byd,
Gwynned Dy sancteiddrwydd ddyddiau’m hoes i gyd!
Angeu dry’n dangnefedd, try y Farn yn gân;
Nefoedd wen ddiddiwedd fydd i’r galon lân.
Display Title: O Fendigaid GeidwadFirst Line: O fendigaid Geidwad, clyw fy egwan gri!Tune Title: MAESGWYNAuthor: John O. Williams, 1847-1922Meter: 11.11.11.11
Display Title: O fendigaid GeidwadFirst Line: O fendigaid GeidwadTune Title: MAESGWYNAuthor: J. O. Williams (Pedrog) 1847-1922Meter: (M. 79 6.5., 811)Date: 1979