Author: David Charles, 1803-1880 Hymnal: The Cyber Hymnal #13432 Meter: 8.8.8.8 First Line: O! Iesu mawr, rho d’anian bur Lyrics: 1 O! Iesu mawr, rho d’anian bur
I eiddil gwan mewn anial dir,
I’w nerthu drwy’r holl rwystrau sy
Ar ddyrys daith i’r Ganaan fry.
2 Pob gras sydd yn yr Eglwys fawr,
Fry yn y nef, neu ar y llawr,
Caf feddu’n oll, eu meddu’n un,
Wrth feddu d’anian Di dy Hun.
3 Mi lyna’n dawel wrth dy draed,
Mi ganaf am rinweddau’r gwaed,
Mi garia’r groes, mi nofia’r don,
Ond cael dy anian dan fy mron. Languages: Welsh Tune Title: LLEF
Llef