13416. Calon Lân

1 Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
Aur y byd na’i berlau mân:
Gofyn wyf am galon hapus,
Calon onest, calon lân.

Cytgan:
Calon lân yn llawn daioni,
Tecach yw na’r lili dlos:
Dim ond calon lân all ganu—
Canu’r dydd a chanu’r nos.

2 Pe dymunwn olud bydol,
Hedyn buan ganddo sydd;
Golud calon lân, rinweddol,
Yn dwyn bythol elw fydd. [Cytgan]

3 Hwyr a bore fy nymuniad
Gwyd i’r nef ar edyn cân
Ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
Roddi i mi galon lân. [Cytgan]

Text Information
First Line: Nid wy’n gofyn bywyd moethus
Title: Calon Lân
Author: Daniel James (Gwyrosydd), 1848-1920
Refrain First Line: Calon lân yn llawn daioni
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: CALON LÂN
Composer: John Hughes (Landore), 1872-1914
Key: A Major
Copyright: Public Domain



Media
Adobe Acrobat image: PDF
MIDI file: MIDI
Noteworthy Composer score: Noteworthy Composer Score
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us