13417. Cwm Rhondda

1 Arglwydd, arwain trwy’r anialwch,
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog, hollalluog
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan,
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.

2 Colofn dân rho’r nos i’m harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy’n teithio’r mannau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Rho imi fanna, rho imi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.

3 Agor y ffynhonnau melys
Sydd yn tarddu o’r graig y maes,
’R hyd yr anial mawr canlyned
Afon iechydwriaeth gras,
Rho imi hynny, rho imi hynny,
Dim imi ond dy fwynhau,
Dim imi ond dy fwynhau.

4 Pan fwy’n myned trwy’r Iorddonen—
Angau creulon yn ei rym,
Ti est trwyddi gynt dy Hunan,
P’am yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth, buddugoliaeth,
Gwna imi weiddi yn y llif,
Gwna imi weiddi yn y llif!

5 Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’r gwaith a wnest erioed:
Ti gest angau, ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pen Calfaria, en Calfaria,
Nac aed hwnnw byth o’m cof,
Nac aed hwnnw byth o’m cof.

Text Information
First Line: Arglwydd, arwain trwy’r anialwch
Title: Cwm Rhondda
Author: William Williams (1745)
Language: Welsh
Copyright: Public Domain
Tune Information
Name: [Arglwydd, arwain trwy’r anialwch]
Composer: John Hughes
Key: A Major
Copyright: Public Domain



Media
MIDI file: MIDI
More media are available on the tune authority page.

Suggestions or corrections? Contact us