Author: Richard Davies; Thomas Levi Hymnal: The Cyber Hymnal #13420 Meter: 8.7.8.7 D First Line: Dyma Feibil annwyl Iesu Lyrics: 1 Dyma Feibil annwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y golled erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd
Trwy adnabod Iesu Grist.
2 Feibil gwerthfawr! caiff dy eiriau
Gartref yn fy mynwes i;
Mae bendithion myrdd myrddiynau
Yn dy addewidion di;
Bu fy nghalon dlawd yn crwydro
Mewn anialwch sych a gwyw;
Nes i ti fy nhywys trwyddo
At geulannau afon Duw.
3 Cuddiaf d’eiriau yn fy nghalon—
Gwnaf yn ddyfnach nag erioed;
Byddi’n llewyrch i fy llwybrau,
Ac yn llusern i fy nhroed;
Cyfaill fyddi ar y ddaear
Erys drwy fy oriau brau;
Yn y nef am dragwyddoldeb
Bydd dy drysor yn parhau. Languages: Welsh Tune Title: MOUNT OF OLIVES
Dyma Feibel Annwyl Iesu